Croeso i’n Blog

Rydym yn Tir Pontypridd yn ceisio sefydlu ffordd o weithio sy’n caniatáu i bobl Pontypridd gael mynediad i dir yn yr ardal rydym yn byw ac o’i chwmpas; tir sy’n cael ei dan-ddefnyddio neu sydd heb wireddu eu potensial, y mannau ymyl.

Yn draddodiadol byddai cymunedau wedi gwneud defnydd o dir comin. Yr enw ar y math hwn o dir yng nghymoedd De Cymru oedd ‘Y Ffridd’: tir oedd yn cefnogi gwerthoedd cyffredin a rhannu cyfrifoldeb, tir lle’r oedd bodau dynol yn ddyfeisgar ac yn arloesol, tir lle’r oedd bioamrywiaeth yn ffynnu.

Rydym yn eich gwahodd i ymuno â Tir y Ffridd: gofod ar-lein ar gyfer trafodaeth rhwng ein haelodau, gyda syniadau, uchelgeision a breuddwydion am sut y gall cymunedau adennill mynediad i’n tirwedd cyfagos.

Rydym yn croesawu aelodau i anfon eu profiadau a’u syniadau am sut yr ydych eisoes yn defnyddio tir, neu i rannu syniadau a breuddwydion am sut y gellir defnyddio tir er budd pobl a’r blaned. Anfonwch 750 o eiriau atom gyda rhai ffotograffau i gyd-fynd â’ch erthygl ysgrifenedig, a byddwn yn cyhoeddi’r rhain yma ar tirpontypridd.org